Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 30 Ionawr 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Diwygio Trefniadau Etholiadol Llywodraeth Leol (45 munud)
· Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Cyflymu Cymru (45 munud)
· Cynnig i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud):
o Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018
o Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2018
· Cynnig i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (45 munud):
o Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) 2018
o Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018
o Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) 2018
Dydd Mercher 31 Ionawr 2017
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau amserol (20 munud)
· Datganiadau 90 eiliad (5 munud)
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Fynediad at Drafnidiaeth Gyhoeddus ar gyfer Pobl Anabl (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru (60 munud)
· Dadl Fer - Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 6 Chwefror 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad: Mynd i'r Afael â Chysgu ar y Stryd a Digartrefedd (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol 2016/17 (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Sut y mae Technoleg Ddigidol yn Gwella Gofal Sylfaenol (45 munud)
Dydd Mercher 7 Chwefror 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau amserol (20 munud)
· Datganiadau 90 eiliad (5 munud)
· Cynnig gan Gomisiwn y Cynulliad: Ymgynghori ynghylch Diwygio’r Cynulliad (30 munud)
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
· Dadl Fer - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 13 Chwefror 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018 (15 munud)
· Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2018 (15 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol (15 munud)
· Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) (60 munud)
· Cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol yn ymwneud â’r Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 14 Chwefror 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig (45 munud)
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau amserol (20 munud)
· Datganiadau 90 eiliad (5 munud)
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar unigrwydd ac unigedd (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl fer - Mark Isherwood (Gogledd Cymru) (30 munud)